Diwrnod 4. Fformatio eich rhestr gyfeiriadau
Dros y tridiau diwethaf rydym wedi edrych ar y tair prif ffynhonnell wybodaeth y byddwch yn eu defnyddio yn eich aseiniadau, sef llyfrau, erthyglau mewn cyfnodolion a dogfennau ar-lein/gwefannau. Mae’n bwysig bod eich Rhestr Gyfeiriadau’n darparu’r holl wybodaeth er mwyn i’ch darlithwyr allu dod o hyd i’r ffynhonnell, os byddant am wneud hynny.
Mae’n bwysig hefyd ei bod wedi’i fformatio yn yr Arddull APA gywir. Mae myfyrwyr weithiau’n cael anhawster â hyn ac yn treulio llawer o amser yn fformatio’u rhestri eu hunain; ond mae nifer o offer Word a all wneud y broses hon yn gynt ac yn haws i chi.
Pwyntiau allweddol
- Dylid dechrau’r Rhestr Gyfeiriadau ar dudalen newydd.
- Dylai’ch Rhestr Gyfeiriadau gynnwys popeth rydych wedi’i ddyfynnu yn eich aseiniad, NID popeth rydych wedi’i ddarllen (a elwir yn llyfryddiaeth).
- Dylai fod yn nhrefn y wyddor yn ôl cyfenw’r awdur.
- Dylai fod bylchau dwbl rhwng llinellau a dylai fod wedi’i mewnoli.
Os defnyddiwn yr holl adnoddau rydym wedi edrych arnynt dros y tridiau diwethaf, byddai fy Rhestr Gyfeiriadau’n edrych fel hyn:
Mae gwneud hyn yn cymryd tri cham syml yn Word: yn gyntaf, amlygwch y Rhestr Gyfeiriadau; yna dewiswch yr eicon A-Z o’r opsiynau; yna i roi bylchau dwbl rhwng llinellau a mewnoli’r rhestr, dewiswch y saeth fach ger y paragraff, ac o’r opsiynau dewiswch ‘Special>Hanging’, yna ‘Line spacing>double’.I ddangos i chi sut i fformatio’r rhestr gan ddefnyddio offer Word, rwyf wedi creu sgrinlediad byr. Cliciwch yma i’w wylio.
Oes gennych chi gwestiwn? Holwch gan ddefnyddio’r botwm Sgwrs Fyw Holi Llyfrgellydd, yr adran sylwadau yn y blog, ar y tudalen facebook neu drwy Twitter gan ddefnyddio’r hashnod #su5dor. Yfory byddwn yn edrych ar offer a allai’ch helpu i gyfeirnodi.