5 Niwrnod o Gyfeirnodi (#su5dor). Diwrnod 3.

Diwrnod 3. Gwefannau a dogfennau ar-lein.

Ydych chi’n cofio beth ddwedom ar Ddiwrnod 1? Yr hyn sy’n allweddol er mwyn cyfeirnodi’n dda mewn aseiniad yn y lle cyntaf yw defnyddio ffynonellau dibynadwy da. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwerthuso popeth a gewch ar-lein gan ddefnyddio’r dull WWWW (Who, Why, When, Where):

Pwy – Pwy ysgrifennodd y wybodaeth?
Pam – Pam bod y wybodaeth yno? (A oes tuedd?)
Pryd – Pryd cyhoeddwyd y wybodaeth? (A yw’n gyfredol?)
Ble – O ble mae’r wybodaeth? (Cliwiau yn yr URL h.y. .com, .ac.uk)

Y prif adrannau y bydd angen i chi eu nodi er mwyn cyfeirnodi gwefan neu ddogfen ar-lein yn gywir yw:

  • Awdur(on) (personol neu gorfforaethol)
  • Blwyddyn cyhoeddi
  • Teitl y wefan/dogfen
  • Dyddiad adalw (os yw’n debygol y caiff y ffynhonnell ei diweddaru yn unig)
  • URL uniongyrchol sy’n gweithio

Yn aml iawn, bydd peth gwybodaeth nad yw ar gael ar gyfer dogfennau ar-lein; enghraifft gyffredin yw dim dyddiad – yn yr achos hwn gallwch wneud y canlynol:

  • Dim dyddiad? – defnyddiwch (n.d.) yn lle

Mae cyngor pellach ar dudalennau 15-20 ein Canllawiau Cyfeirnodi APA.

Yn y Rhestr Gyfeiriadau

Dyma ychydig o enghreifftiau:

Gwefannau

Yr unig achos y mae angen nodi dyddiad adalw yn y Rhestr Gyfeiriadau yw os credwch y gallai’r wefan gael ei diweddaru (mae’n anodd gwybod weithiau).

Royal College of Nursing. (n.d.). Principles of nursing practice. Retrieved June 5, 2018 from https://www.rcn.org.uk/professional-development/principles-of-nursing-practice

Cyhoeddiad ar-lein

Mae’r cyfeiriad hwn yn cysylltu â fersiwn PDF y Côd, y mae dyddiad cyhoeddi arno, felly nid oes angen rhoi dyddiad adalw.

Nursing & Midwifery Council. (2015). The code: Professional standards of practice and behaviour for nurses and midwives. Retrieved from http://www.nmc.org.uk/globalassets/sitedocuments/nmc-publications/revised-new-nmc-code.pdf

Dyfynnu o fewn y testun

Gair i gall: os byddwch yn defnyddio’r un dyfyniad sawl gwaith yn eich aseiniad, defnyddiwch acronymau. Rhaid i chi egluro’r acronym yn llawn y tro cyntaf, gyda’r acronym ei hun, fel bod yr ystyr yn amlwg i’r darlithydd.

Dyfyniad cyntaf:

Yn ôl y Nursing & Midwifery Council (NMC, 2015, t. 5) rhaid i nyrs “adnabod ac ymateb yn dosturiol i anghenion y rhai sydd yn ychydig ddyddiau neu oriau olaf eu bywyd.”

Neu

Yn ôl y Nursing & Midwifery Council (NMC, 2015) rhaid i nyrs “adnabod ac ymateb yn dosturiol i anghenion y rhai sydd yn ychydig ddyddiau neu oriau olaf eu bywyd” (t. 5).

Neu

Rhaid i nyrs “adnabod ac ymateb yn dosturiol i anghenion y rhai sydd yn ychydig ddyddiau neu oriau olaf eu bywyd” (Nursing & Midwifery Council (NMC), 2015, t. 5).

Ail ddyfyniad

Am i chi egluro’r acronym yn y dyfyniad cyntaf, gallwch nawr ddefnyddio’r acronym mewn unrhyw ddyfyniadau eraill yn y testun.

Rhaid i nyrs “barchu bod hawl person i breifatrwydd a chyfrinachedd yn parhau ar ôl iddo farw” (NMC, 2015, t. 6).

Neu

Mae’r NMC (2015) yn datgan bod rhaid i nyrs “barchu bod hawl person i breifatrwydd a chyfrinachedd yn parhau ar ôl iddo farw” (t. 6).

Oes gennych chi gwestiwn? Holwch gan ddefnyddio’r botwm Sgwrs Fyw Holi Llyfrgellydd, yr adran sylwadau yn y blog, ar y tudalen facebook neu drwy Twitter gan ddefnyddio’r hashnod #su5dor. Yfory byddwn yn edrych ar fformatio eich Rhestr Gyfeiriadau.

Advertisements

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out /  Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

w

Connecting to %s